



Woodwind Instrument Repairs
Ffliwtydd, atgyweiriwr offerynnau chwythbrennau ac athrawes ffliwt o Gaerdydd yw Lleucu.
Graddiodd gyda MMus mewn Perfformio ar y Ffliwt o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan astudio gyda John Hall, Sarah Bennington, Roger Armstrong a Sarah Newbold. Tra’n astudio ar gyfer ei gradd meistr dechreuodd ymddiddori’n fawr yn sut yr oedd ei hofferyn yn gweithio ac aeth ati i ymchwilio ymhellach. Fel atgyweiriwr mae Lleucu wedi hyfforddi gyda Lynne Williams a Richard Hamer yn y Trevor Head Brass and Woodwind Instrument Repair School, gan gwblhau’r cyrsiau Sgiliau Sylfaenol ac Uwch. Mae hefyd wedi cael hyfforddiant un-i-un gyda’r technegydd chwythbrennau arbenigol Daniel Bangam yn Cambridge Woodwind Makers. O ganlyniad i hyn datblygodd ei gwybodaeth a’i sgiliau yn helaeth. Mae Lleucu erbyn hyn yn arbenigo mewn atgyweirio Ffliwtiau, Clarinetau a Sacsoffonau.
Fel perfformiwr mae Lleucu wedi teithio Cymru gydag OPRA Cymru ac wedi perfformio gyda nifer o ensembles gan gynnwys Opera Caerdydd, Cerddorfa Gyngerdd Caerdydd, Cerddorfa Symffoni Ignite a Cherddorfa Fulltone. Fel aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru rhwng 2017-2022 perfformiodd Lleucu dan arweiniad y maestros Carlo Rizzi, Andrew Litton a Kwamé Ryan. Tra yn CBCDC cyrhaeddodd Lleucu rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru a chystadleuaeth Rhuban Glas Offerynnol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Lleucu hefyd yn perfformio gyda’i chwaer fel rhan o’r ddeuawd ffliwt ddeinamig Dwy. Maent yn arbenigo mewn amrywiaeth eang o arddulliau, o’r clasurol i’r gwerin a hefyd effeithiau electronig. Mae gan Dwy brofiad helaeth o greu a threfnu eu cerddoriaeth eu hunain, ac yn aml byddant yn cyfuno cerddoriaeth werin Gymreig, clocsio ac electroneg i greu perfformiadau cyffrous ac unigryw sy’n wledd i’r glust a’r llygad.
Mae Lleucu wedi cael ei chefnogi gan Sefydliad James Pantyfedwen, Gwobr Gerddoriaeth Leonard a Marian Jones, Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ac Ymddiriedolaeth Split Infinitive. Ers dechrau ei busnes, mae Lleucu wedi derbyn cyllid grant gan Gronfa Fenter SWEF a Bright Ideas Den Prifysgol De Cymru. Mae hi’n ddiolchgar iawn iddynt i gyd am eu holl gefnogaeth.
Amdanaf i




